Ymchwiliad y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon i effaith Covid-19 a'r modd y mae'n cael ei reoli, ar iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru

Ymateb gan y Gymdeithas Cludiant Cymunedol  

 


Cyflwynir yr ymateb hwn gan y Gymdeithas Cludiant Cymunedol (CTA), elusen sy'n weithredol ar draws y DU ac yn gweithio gyda miloedd o elusennau a grwpiau cymunedol eraill ledled y DU sy’n darparu gwasanaethau cludiant lleol sy'n cyflawni pwrpas cymdeithasol ac yn rhoi budd cymunedol. Rydym yn cefnogi darparwyr cludiant cymunedol ledled Cymru ac yn gweithio gydag ystod o randdeiliaid allweddol i hyrwyddo'r sector a chodi safonau. Mae cludiant cymunedol yn helpu gydag ansawdd, fforddiadwyedd a hygyrchedd opsiynau cludiant i bobl nad ydynt yn gallu gyrru ac nad oes ganddynt fynediad at drafnidiaeth gyhoeddus gonfensiynol. Mae hyn golygu darparu atebion hyblyg a hygyrch dan arweiniad y gymuned er mwyn ymateb i anghenion cludiant lleol sydd heb eu diwallu, ac yn aml dyma'r unig ffordd o deithio i lawer o bobl sydd wedi'u hynysu ac sy'n agored i niwed.

 

 

Sut mae darparwyr cludiant cymunedol yn gweithio fel arfer gyda chleifion a phobl eraill sy'n derbyn gofal neu driniaeth mewn lleoliadau clinigol ac yn y gymuned?

 

Mae cludiant cymunedol yn cynnig gwasanaethau cwbl allweddol i filoedd o bobl yng Nghymru nad oes ganddynt unrhyw ffordd arall o deithio.  Mae ein haelodau'n darparu gwasanaethau cludiant hanfodol er mwyn i bobl gyrraedd apwyntiadau iechyd ac yn gweithio gydag Ymddiriedolaeth (GIG) Gwasanaethau Ambiwlans Cymru i ddarparu Gwasanaethau Cludo Cleifion Mewn Achosion Nad Ydynt yn Rhai Brys (NEPTS).

Mewn adroddiad a gyhoeddwyd gan Gydffederasiwn y GIG yng Nghymru, Cludiant Cymunedol ac Iechyd - Gwneud Iechyd yn Hygyrch i Bawb, mae ehangder y cymorth gan ddarparwyr cludiant cymunedol er mwyn sicrhau bod pobl yn gallu cyrraedd gwasanaethau iechyd yn amlwg ac mae'r teithwyr a'r gwasanaethau yn gwerthfawrogi'r budd a ddaw trwy'r gwasanaethau hynny.

 

Mae'r mathau o deithiau a ddarperir trwy gludiant cymunedol yn cynnwys:

 

 

Pa effaith mae Covid-19 wedi'i chael ar y ddarpariaeth hon?

 

Mae Covid-19 yn cael effaith sylweddol ar y sector cludiant cymunedol gan fod llawer o yrwyr a theithwyr dros 70 oed ac ym mis Mawrth, gofynnwyd iddynt hunan-ynysu am 12 wythnos.  Mae ein haelodau mewn sefyllfa debyg i lawer o sefydliadau ar hyn o bryd gan eu bod wedi colli cyfleoedd i gynhyrchu unrhyw incwm masnachol neu roddion elusennol.  Ar hyn o bryd, mae Llywodraeth Cymru wedi argymell bod Awdurdodau Lleol yn parhau i dalu o leiaf 75% am wasanaethau a ariennir gan grant yn seiliedig ar hawliadau ariannol y llynedd.  Ni wyddom am ba hyd y bydd y cyngor hwn ar waith a chan fod teithwyr cludiant cymunedol yn tueddu i fod o grwpiau bregus, mae'n debyg y bydd cryn amser cyn y byddant am deithio eto. 

 

Ar ôl i'r cyfyngiadau symud gael eu cyflwyno, gweithredodd y sector yn gyflym, gan addasu gwasanaethau i ddiwallu anghenion newydd.  Ymhlith yr ystod o wasanaethau a chymorth sydd wedi'u cynnig, mae gwasanaethau 'siopa a gollwng', casglu a dosbarthu presgripsiynau, cyfeillio dros y ffôn a chynnal darpariaeth cludiant ar gyfer teithiau hanfodol.  Mae wastad yn amlwg mai gwasanaeth cymdeithasol a ddarperir trwy gyfrwng cludiant yw cludiant cymunedol ond mae hyn yn fwy amlwg nag erioed yn ystod yr argyfwng presennol.

 

O ran cludiant i wasanaethau iechyd, mae llawer o wasanaethau yn parhau, gyda darparwyr yn gweithio gydag Ymddiriedolaeth Gwasanaethau Ambiwlans Cymru i sicrhau bod cleifion yn gallu cyrraedd gwasanaethau oncoleg a dialysis er enghraifft.  Rydym hefyd wedi gweithio gyda'r sector a Llywodraeth Cymru i ganfod cyfleoedd i'n haelodau gludo gweithwyr allweddol er mwyn sicrhau bod modd i wasanaethau hanfodol barhau.

 

Er bod gwerth amlwg i gludiant cymunedol, mae ansicrwydd ynghylch cyllid yn y dyfodol a bydd angen cymryd camau i sicrhau bod darparwyr yn derbyn y cyllid craidd sydd ei angen i gynnal eu gwaith fel y gallant barhau i ddarparu eu cymorth i wasanaethau iechyd.

 

Pa heriau a risgiau y mae CTA wedi'u hadnabod sy'n galw am sylw o ran polisi?

 

Gyda'r capasiti ar draws y sector trafnidiaeth yn gyfan gwbl wedi lleihau'n sylweddol, mae'n amlwg fod y model cyllido cyfredol yn anghynaliadwy a bod rhaid cymryd camau i fynd i'r afael â'r her hon. Mewn ardaloedd gwledig yn benodol, roedd gwasanaethau'n ei chael hi'n anodd goroesi cyn y cyfyngiadau symud ac maent yn wynebu dyfodol sydd yn fwy ansicr fyth nawr.  Fodd bynnag, rhaid i ni beidio ag anghofio bod cludiant yn wasanaeth cyhoeddus ac mae cludiant cymunedol yn aml yn cael ei ddisgrifio fel 'achubiaeth'.  Os bydd llai o wasanaethau cludiant, bydd gallu pobl i gyrchu gwasanaethau hefyd yn dirywio.  Bydd pobl hefyd yn methu cyrraedd swyddi a chyfleusterau hamdden a bydd hynny'n cael mwy o effaith negyddol ar ganlyniadau iechyd.

 

Mae'r sector cludiant cymunedol yn arbenigo mewn cludiant hygyrch gyda'r rhan fwyaf o gerbydau'r fflyd yn hygyrch i gadeiriau olwyn.  Mae angen cymorth ar lawer o deithwyr i fynd i mewn i gerbydau a hyd yn hyn, nid oes canllawiau ar gyfer cefnogi defnyddwyr cludiant sy'n anabl neu'n agored i niwed a byddai ein haelodau'n croesawu eglurder fel y gallant fod yn hyderus eu bod yn sicrhau diogelwch gyrwyr a theithwyr. 

 

 

Argymhellion terfynol:

 

·         Mae cludiant cymunedol yn gwbl hanfodol a hyd yn oed yn yr amseroedd hyn gyda llai o angen am wasanaethau cludo teithwyr, mae darparwyr yn gweithio'n galed i sicrhau bod eu buddiolwyr yn ddiogel gartref trwy gyfeillio dros y ffôn a danfon nwyddau hanfodol.  Mae'r newid hwn yn y gwasanaeth a ddarperir ynghyd â diflaniad unrhyw incwm masnachol, yn golygu bod y model cyllido ar gyfer cludiant cymunedol yn fregus iawn.  Dylai Llywodraeth Cymru sicrhau bod y sector yn cael cefnogaeth ariannol er mwyn sicrhau gwasanaethau cludiant i bobl sy'n agored i niwed nawr ac yn y dyfodol.

·         Gyda fflyd sy'n hygyrch i gadeiriau olwyn ar y cyfan a llawer o'r teithwyr yn agored i niwed, mae angen canllawiau er mwyn sicrhau bod teithwyr a darparwyr yn ddiogel ar gyfer teithiau hanfodol.  Dylai Llywodraeth Cymru sicrhau bod canllawiau arbenigol ar gael i ddarparwyr sy'n darparu gwasanaethau cludiant i grwpiau sy'n agored i niwed. 

 

 

___________________________________________________________________________

Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â:

 

Christine Boston, Cyfarwyddwr Cymru, CTA UK